R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pa wybodaeth y gall y Gweinidog ei darparu am effeithiolrwydd ymgyrch Llywodraeth Cymru i ddileu ysmygu mewn ceir y mae plant yn deithwyr ynddynt? OAQ(4)0335(HSS)
2. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau i bobl â dementia yng Nghymru? OAQ(4)0334(HSS)
3. Mick Antoniw (Pontypridd): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo pobl yng Nghymru sy'n dioddef o Ceratoconws? OAQ(4)0332(HSS)
4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth deintyddiaeth y GIG yng Nghymru? OAQ(4)0331(HSS)
5. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Gwên Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0328(HSS)
6. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau i gleifion sydd wedi cael anaf i'r ymennydd? OAQ(4)0327(HSS)
7. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion Adroddiad Francis? OAQ(4)0343(HSS)
8. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Raglen De Cymru? OAQ(4)0330(HSS)
9. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros am brawf clyw yng ngogledd Cymru? OAQ(4)0337(HSS)W
10. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau y bydd yr holl bobl yn y categorïau mewn perygl yn cael y brechlyn ffliw? OAQ(4)0340(HSS)
11. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu a gweithredu Cod Ymarfer ar gyfer Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru)? OAQ(4)0342(HSS)
12. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog o ran gweithio gydag asiantaethau eraill er mwyn helpu pobl hŷn i aros mor annibynnol â phosibl yn y gymuned? OAQ(4)0339(HSS)
13. Sandy Mewies (Delyn): Pa gynnydd pellach sydd wedi'i wneud ers yr achosion o'r frech goch yn gynharach eleni tuag at gyrraedd targedau imiwneiddio ymhlith plant ifanc a phlant yn eu harddegau? OAQ(4)0336(HSS)
14. Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r cynllun cyflawni niwrolegol? OAQ(4)0333(HSS)W
15. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella perfformiad GIG Cymru? OAQ(4)0325(HSS)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am greu llyfr statud i Gymru? OAQ(4)0052(CG)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael gyda swyddogion y gyfraith mewn mannau eraill ynglŷn ag ymarferoldeb cyfeirio biliau'r Cynulliad Cenedlaethol i'r Goruchaf Lys ar gyfer penderfyniad ar eu cymhwysedd? OAQ(4)0051(CG)W
Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
1. Elin Jones (Ceredigion): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud tuag at ei amcanion o ran trechu tlodi mewn ardaloedd gwledig? OAQ(4)0075(CTP)W
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o nifer y menywod sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru? OAQ(4)0078(CTP)
3. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i liniaru tlodi drwy'r Grŵp Cynghori Allanol ar Drechu Tlodi? OAQ(4)0077(CTP)
4. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu'r sector gwirfoddol? OAQ(4)0081(CTP)W
5. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa linellau sylfaen a ddefnyddir i fonitro cynnydd y Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol? OAQ(4)0079(CTP)
6. Russell George (Sir Drefaldwyn): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â chymdeithas ddinesig Cymru o ran ei datblygu ar gyfer y Bil Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)? OAQ(4)0084(CTP)
7. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r cysylltiad rhwng anabledd a thlodi yng Nghymru? OAQ(4)0082(CTP)
8. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddarparu adroddiad cynnydd ar weithredu'r clystyrau Cymunedau yn Gyntaf newydd ledled Cymru? OAQ(4)0087(CTP)
9. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i leihau ‘tlodi mewn gwaith’? OAQ(4)0076(CTP)
10. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i gynnal adolygiad o'r cynllun Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(4)0071(CTP)
11. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y cynnydd mewn biliau cyfleustodau ar lefelau tlodi yng Nghymru? OAQ(4)0072(CTP)
12. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru? OAQ(4)0074(CTP)
13. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â thlodi mewn gwaith? OAQ0083(CTP)
14. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghwm Cynon? OAQ0080(CTP)
15. Leighton Andrews (Rhondda): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Grant Cymorth i Gyflogwyr i gyn-weithwyr Remploy? OAQ(4)0073(CTP)R